Ymgyrchoedd

Na i SMR’s (Pwerdai Niwclear Bychain)

Yn 2023, cynhaliwyd gorymdaith yn erbyn ynni niwclear yng Nghymru gan HarW ynghyd â CND Cymru, PAWB a CADNO. Ni all ynni niwclear leihau yr effeithiau a ddaw gyda newid hinsawdd. Ynghlwm â’r diwydiant y mae allyriadau enfawr gan fwyngloddio am wraniwm, cludo deunydd, adeiladu gorsafoedd, a storio gwastraff niwclear yn y tymor hir. Buasai unrhyw ynni niwclear newydd yn cymryd degawdau i ddwyn ffrwyth, ymhell o lawer wedi’r cyfnod hollbwysig i gyrraedd net sero.

Mae ynni niwclear hefyd â pherthynas agos â chynhyrchu arfau niwclear, sy’n gofyn am gyflenawd cyson o bliwtoniwm a thritiwm at wneud arfau. Mae HarW yn parhau i drefnu gwrthwynebiad.

Cadoediad Nawr

Ers fis Hydref 2023, mae HarW yn gadarn yn galw am gadoediad yng Ngaza. Yn sgil ymosodiadau erchyll Hamas ar Hydref 7fed, mae Israel wedi mynd ati i lansio ymgyrch hollol anghymesur o hil-laddiad yn erbyn Pobl Palestina. Nid oes cyfiawnhau trais yn erbyn poblogaeth ddiniwed heb arfau.

Rydym yn galw ar ein cynrychiolwyr etholedig i gynnal y gyfraith ryngwladol, gan roi stop ar werthu arfau i Israel, yn ogystal â mynnu cadoediad yng Ngaza. Rydym wedi cynnal gwylnosau, boicotio, protestiadau a chyfarfodydd cyhoeddus bob wythnos, a byddwn yn parhau felly nes bod heddwch.

PARC yn erbyn DARC

Fel rhan o gynghrair AUKUS, cafodd Breudeth ei phenodi yn safle Gallu Radar Uwch y Gofod Dwfn (DARC). Bydd y prosiect hwn o 27 o soseri lloeren yn galluogi i’r DU, yr UDA ac Awstralia ryfela yn y gofod.

Daw DARC yn ddwysâd sylweddol yn y ras arfogi byd-eang, gan beryglu’r byd yn fwy fyth o’i achos. Yn ogystal â DARC, mae’r gynghrair newydd wedi dechrau adeiladu llongau tanfor niwclear yng Nghaerdydd.

Mae HarW yn gwrthwynebu’r datblygiadau gofidus newydd hyn, ac yn sefyll ochr yn ochr ag Ymgyrch yn Erbyn y Pembrokeshire Against the Radar Campaign (PARC)

Cyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol