Gweithgor 1

Mapio hyd a lled militariaeth yng Nghymru a thynnu sylw pobl Cymru at yr wybodaeth hon gan ddefnyddio dulliau arloesol a chydweithredol.

Militariaeth yng Nghymru

Mae Elbit Systems yn profi eu dronau ar draws ‘Ardal Berygl’ o ryw 6,500 cilomedr sgwâr o Fae Ceredigion.

Y Swyddfa Amddiffyn sydd biau 23,400 hectar o dir yng Nghymru, sy’n cynnwys o amgylch 25 o ganolfannau milwrol.

Mae’r rhaglen arfau niwclear yn dibynnu ar ddiwydiant niwclear sifil. Mae’r diwydiant niwclear sifil yn debygol o ddychwelyd i Gymru.

Mae 85% o dir Cymru wedi’i benodi yn ardal hedfan isel. Mae hediadau isel yn peri lefelau anferth o lygredd sain.

Mae 74% o ysgolion cyfun Cymru yn cael eu hymweld gan y fyddin 4 gwaith y flwyddyn ar gyfartaledd.

Deallir bod Cymru yn cyfrannu 8% o’r gyllideb filwrol at ei gilydd, llawer mwy na’r hyn sy’n cael ei wario ar liniaru effeithiau newid hinsawdd.

Mae tua 115,000 o gyn-filwyr yn byw yng Nghymru. Mae llawer o'r rhain yn dioddef heriau iechyd hirdymor, gan gynnwys problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.

Mae llawer o’n sefydliadau cyhoeddus wedi buddsoddi mewn cwmnïau arfau. Mae’r rheini yn aml ynghlwm â throseddau rhyfel.

Mae dros 90 o gontractwyr amddiffyn yng Nghymru.

Mae’r filitariaeth yn cael ei heithrio o adrodd carbwn a thargedau allyriadau, er gwaethaf y ffaith ei bod yn cyfrannu cyn uched â 6% o’n hallyriadau at ei gilydd - yn uwch fyth na hedfannau sifil, ac yn cyfateb i 6 miliwn o geir yn y DU (YEFA).

Mae Sir Benfro wedi’i phenodi yn safle i adeiladu Galluoedd Radar Uwch y Gofod Dwfn (DARC). Bydd hyn yn galluogi i’r gynghrair AUKUS ddechrau rhyfel yn y gofod.

Mapio Militariaeth

Pwrpas Gweithgor 1 yw olrhain faint y mae militariaeth wedi treiddio i bob cwr o gymdeithas Cymru. Ni fyddwn yn mapio ei dyraniad daearyddol yn unig, byddwn hefyd yn olrhain yr argraff niweidiol a geir; amddifadu cynfilwyr; ei hallyriadau carbwn; a’r argraff y mae ei llygredd sain yn ei chael i enwi ond ychydig.

Data a gasglwyd hyd yn hyn