Er bod Heddwch ar Waith yn bwriadu amlygu argraff negyddol militariaeth ar bob agwedd o gymdeithas Cymru, rydym hefyd yn cynnig gweledigaeth o Heddwch Buddiol
Yn cydweithredu gyda SAIL, rydym yn gobeithio dangos sut y gellir magu gwydnwch yn y gymuned.
Pwy a beth yw SAIL?
Pobl sydd â ffydd mai ein cymunedau yw sail gobaith yng Ngwynedd a Môn.
Rydym oll yn weithgar rywsut neu’i gilydd yn ein cymunedau.
Pobl sy’n credu mai’r Gymuned a all fod wrth wraidd dyfodol llewyrchus, hyderus, iach, gwyrdd, Cymraeg a theg.
Beth ydym yn trio ei wneud?
Dangos i bobl fod eu cymunedau o werth fel sail i’r dyfodol.
Dangos sut y gallwn, ar lefel leol, dynnu ar syniadau blaengar o weddill Cymru a’r byd ehangach.
Dangos sut mae’r gyfalafiaeth a gynigir i’n hachub mewn gwirionedd wedi methu’n drychinebus ar sawl lefel.
Dangos fod modd i gymunedau feddwl yn greadigol ac yn wahanol wrth adfer rheolaeth lleol.
Dangos nad yw’r cynlluniau swyddogol yn cynnig atebion digonol.
Dangos i wleidyddion sut y gallant gefnogi ein cymunedau yn well o lawer.
Dechrau sgwrs adeiladol gyda phawb sydd â diddordeb mewn gweld ein cymunedau yn ffynnu, a chynnig ffyrdd o ddysgu oddi wrth ein gilydd.